Yn wreiddiol byddai'r ceffylau a ddefnyddir ar gyfer rasio wedi bod yn fridiau brodorol neu o gartref a byddai'r mwyaf athletaidd o'r bridiau hyn wedi dod yn fwyfwy poblogaidd.
Byddai llinachau penodol wedi denu cryn sylw ac yma yng Nghymru, y Cobiau Cymreig brodorol yn enwedig. Fodd bynnag, prin yw'r dystiolaeth o unrhyw gysylltiad rhwng y Cob Cymreig a'r Standardbred sy'n rasio yn y DU heddiw; yn wahanol i fridiau megis y Norfolk Trotter a ddylanwadodd ar darddiad bridio y Standardbred ledled y byd.
Heddiw, mae pob ceffyl a ddefnyddir ar gyfer rasio harnais yn y DU yn Standardbred cofrestredig a bydd llawer ohonynt wedi cael eu magu yn y DU. Fodd bynnag, ceir dylanwad cryf Gogledd America gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt â thad sy'n farch un o fridiau Gogledd America a mam, os nad wedi ei mewnforio yn uniongyrchol o Ogledd America, â llinach Gogledd America gref. Wedi eu deillio'n bennaf o linachau Thoroughbred, mae'r ceffylau wedi cael eu magu'n ddetholus dros nifer o genedlaethau am eu gallu i gydlamu neu groeslamu'n gyflym.