Cerrig Milltir Allweddol

1997

Cynhaliwyd cyfarfod rasio cyntaf erioed Clwb Trotian Ceredigion.

Milo’s creator, a yrrwyd gan Roy Wilson a hyfforddwyd gan Meirion Davies enillodd y ffeinal fawr.

1998

Enillodd Jack Daniels, a hyfforddwyd ac a yrrwyd gan Steve Flook, y ffeinal fawr.

1999

Classic Time, a hyfforddwyd ac a yrrwyd gan Jeff Langford, enillodd y ffeinal fawr.

2000

Yn anffodus bu farw Mr Ieuan Jones a oedd wedi bod mor garedig a darparu cae ar gyfer y cyfarfodydd rasio. Er cof amdano ac i ddiolch am ei holl garedigrwydd tuag at y clwb, cyflwynodd y pwyllgor dlws sialens.

Morfa Duke, yn cael ei yrru gan Sarah Mould a’i hyfforddi gan Lynne Mould enillodd y ffeinal fawr, ac yn dilyn hynny y tlws her.

2001

Gohiriwyd y cyfarfod rasio ynghyd â'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau chwaraeon eraill y sir o ganlyniad i ragofalon y clwy Traed a'r Genau.

2002

Dangosodd eleni fod y gefnogaeth i’r gamp yn gryfach nag erioed, er gwaethaf gohirio’r cyfarfod rasio yn 2001.

Enillodd Merry Baron, a yrrwyd gan Megan Taff ac a hyfforddwyd gan Raymond Jenkins y ffeinal fawr.

2003

Enillodd Brywins Tomi, a hyfforddwyd ac a yrrwyd gan Brian Davies, enillodd y ffeinal fawr.

Yn dilyn rasys eleni, cafwyd consensws cyffredinol nad oedd ansawdd y trac yn ddigon da ag ystyried y trefniadau rhagorol ac ansawdd y rasio. Cwblhawyd llawer iawn o waith a thalwyd costau i wella'r trac, gan greu cylched o ½ milltir union. Rhoddwyd caniatâd ar gyfer y gwaith hwn gan Mr a Mrs Lewis Jones, Fferm Ynyshir, Eglwysfach ac aethant ymlaen i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y rasys.

2004

Datblygodd y rasio ymhellach yn 2004 gyda cyfanswm y wobr ariannol yn cyrraedd mwy na £17,000.

Key Factor, a yrrwyd gan Alan Haythornthwaite, sy'n eiddo i Neil Holgate, ac a hyfforddwyd gan Theresa Haythornthwaite, enillodd y ffeinal fawr a derbyn £5,000.

Yn anffodus, eleni bu farw Jos Davies, ac mae ei gyfeillgarwch a’i deyrngarwch i'r clwb yn parhau'n golled fawr.

2005

Oherwydd y nifer cynyddol o geffylau oedd yn cofrestru, penderfynwyd ei bod yn angenrheidiol cynnal y digwyddiad dau ddiwrnod cyntaf erioed yn Nhan y Castell, dydd Sadwrn 8fed a dydd Sul 9fed Gorffennaf 2005. Sefydlwyd yr ail ddiwrnod fel diwrnod coffa er cof am y diweddar Jos Davies, ac roedd cyfanswm y wobr ariannol ar gyfer y penwythnos yn £30,000.

Enillwyd y digwyddiad deuddydd cyntaf erioed ar y dydd Sadwrn gan Newtown Perfection, a yrrwyd gan Alan Wallace, gan ennill £3,000.

Dydd Sul yr enillydd oedd Lucky Touch, a yrrwyd gan Megan Taff, a derbyniodd £5,000. Hefyd yn 2005 gwelsom 'dead heat yn y rhagras Crochan Aur rhwng Soot Around a Frisco Titan.

2006

Lifeisbutadream, a yrrwyd gan Steve Lees a Star’s Dragon a yrrwyd gan Andrew Cairns oedd enillwyr y penwythnos.

2007

Eleni profwyd carreg filltir bwysig arall yng nghalendr Clwb Trotian Ceredigion pan ddathlodd y clwb ei 10fed pen-blwydd. Codwyd dros £35,000 mewn gwobrau ariannol gyda'r wobr gyntaf erioed yn y Deyrnas Unedig o £10,000 yn cael ei rhoi i enillydd y Wilson Timber Classic Final, sef Bon Jasper; ceffyl lleol a yrrwyd gan Michael Lord ac yn eiddo i Mrs Glenys Jones, Llanllwni.

Enillwyd ffeinal fawr dydd Sadwrn gan Meadowbranch Niche, a yrrwyd gan Alan Haythornthwaite.

2008

Yr enillwyr oedd Red Cassino, a yrrwyd gan Alan Haythornthwaite a Kikicolt a yrrwyd gan John Richardson.

2009

Yr enillwyr oedd Little Benjio, a yrrwyd gan B Roach a Springhill Horizon, a yrrwyd gan John Richardson.

2010

Unwaith eto, oherwydd y cynnydd yn nifer y ceffylau, gorfodwyd y clwb i gynnal cyfarfod rasio tri diwrnod. Enillwyd y dair ffeinal gan Desert Storm a yrrwyd gan Michael Lord, Wexford Beach a yrrwyd gan Marc Jones, a Lyons Stephen a yrrwyd gan Patrick Kane jnr, gyda chyfanswm y gwobrau ariannol yn fwy na £50,000.

Clwb Trotian Ceredigion oedd y cyfarfod rasio cyntaf erioed ar gofnod i gynnal ras Clwb Rasio Harnais Prydain y National Pacing Derby a’r European Pacing Classic ar borfa. Denodd y rasys mawreddog yma geffylau o bob cwr o'r wlad gan osod Ceredigion ar y map rasio harnais am gynnal y rasys hyn yn 2010 a 2011.

2011

Briwyns Magic Potion a yrrwyd gan Alan Haythornthwaite, American Gigolo a yrrwyd gan Ian Pimlott ac â hyfforddwyd gan John Gill, a Matt Monro a hyfforddwyd gan Alexis Laidler a gyrrwyd gan William Laidler oedd enillwyr y penwythnos.
 

2012

Cafodd y cyfarfod ei gorfodi i ganslo ar ôl Mehefin ofnadwy o wlyb a welodd llifogydd mawr yn Aberystwyth

Nôl i'r top

}

Mwynhewch ddiwrnod allan llawn hwyl gyda'r teulu...

Cliciwch yma

Ceredigion Council Logo EU Logo Welsh Government Logo