Clwb Rasio Harnais Tan y Castell

}

Sefydlwyd Clwb Rasio Harnais Tan y Castell yn 2001 er mwyn darparu parhad yn y rasio yng Ngheredigion rhwng y ddwy brif ŵyl - Ceredigion a Tregaron.

Ers ei sefydlu, a gyda chefnogaeth gref gan berchennog y safle, Mr Lewis Jones, mae cyfarfod Tan y Castell wedi sefydlu ei hun fel nodwedd flynyddol yng nghalendr rasio harnais Cymru a'r Gorllewin. Ceir rasio cystadleuol iawn ac mae yma hanes o gynhyrchu enillwyr poblogaidd bob blwyddyn. Mae Tan y Castell yn ymfalchïo mewn darparu gwerth eich arian a rhywbeth at ddant pawb.

Yn ogystal â'r brif eitem, rhagbrofion a rownd derfynol Coron y Castell, mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys ras Gyrwyr Dosbarth C ar gyfer gyrwyr newydd ac amatur, ras Aelodau Clwb Cardigan Bay, sydd bob amser yn cystadleuol iawn ar lefel leol, a gwasanaethau poblogaidd Louise Peeters a'i Dyfi Donkeys sy'n darparu reidiau plant drwy gydol y prynhawn.

Nôl i'r top

}

Mwynhewch ddiwrnod allan llawn hwyl gyda'r teulu...

Cliciwch yma

Ceredigion Council Logo EU Logo Welsh Government Logo