Cip olwg ar fywyd gyrrwr ieuengaf Ceredigion
05/10/2012
Felly mae tymor 2012 bron a dod i ben, mae rhan fwyaf o'r ceffylau wedi mynd adref ar gyfer y gaeaf ac yn awr rydym yn dechrau cael rhai ifanc i dorri i mewn. Aeth y cyfarfodydd diwethaf y flwyddyn i ni ddim wedi mynd yn dda. Roeddem ni gyd yn barod i rasys Walton, o'n ni wedi paratoi tri cheffyl ar gyfer rasys 3 a 4, ond ar ôl ras 2 roedd rhaid canslo oherwydd ei fod mor wlyb. Rwy'n meddwl bod y ceffyl yn falch iawn er nad oeddent yn edrych fel eu bod eisiau mynd allan yn yr holl law. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn gyda'r glaw sydd byth yn dod i ben. Ond ges i fy enillydd cyntaf eleni felly ni allaf gwyno.
Nid oes lot o geffylau mewn ar hyn o bryd sydd yn braf wrth i mi gael cysgu mewn yn y boreau. Bydd ychydig mwy yn dod yn fuan er mwyn torri i mewn i'r gert sydd bob amser yn ddiddorol. Ar hyn o bryd mae gennym frawd i Billy a Katie ac rydym yn neud gwaith paratoi gyda fe cyn iddo fynd yn y gert. Rwyf hefyd wedi cael cydlamwyr i dorri mewn i reidio. Rwy'n mwynhau eu dysgu i reidio, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dawel a chodi pethau i fyny yn gyflym. Mae'n braf cael brosiect bach o fy hun i wneud. Nai rhoi gwybod i chi pan fydd rhai ceffylau newydd yn dod i mewn a rhoi gwybod i chi sut maen nhw'n dod ymlaen.
29/08/2012
Sori mae cymaint o amser wedi mynd heibio ers i mi ysgrifennu yma diwethaf. Rydym wedi cael tymor anodd oherwydd y tywydd gwael, felly nid ydym wedi bod yn rasio llawer. Ers i mi siarad â chi ddiwethaf, mae fi a Cati (Rush Around) wedi ennill ras yn cyfarfod Tanycastell, oedd e'n deimlad ffantastig. Dyna lun o'r ddau ohonom ar ôl i ni ennill. O'n ni wedi cael lle da ar y gât felly penderfynais fynd amdani ac arwain o'r dechrau i'r diwedd, yr wyf yn falch iawn gyda'i pherfformiad. Mae'n braf i gael fy muddugoliaeth gyntaf drosodd a gobeithio y bydd ychydig mwy i ddod. Ar yr un diwrnod enillodd fy nhad a fy mhrawd ras hefyd, felly ysgrifennodd Ceredrotian amdanom ni yn eu cylchlythyr ac mi ddaeth Rasus i wneud ychydig o ffilmio.
Yna cafodd cyfarfod nesa ei ganslo. Yn ffodus gaeth cyfarfod Tregaron symud o Dregaron i Dairgwaith a wnaeth a Rhys a Benji (Fool Around) ennill Clasur Cymru! Mae'n un o rasys mwyaf y flwyddyn ac mae wedi breuddwydio am ennill hi ers oedd e'n fach. Rwy’n falch iawn iddo fe a Dad. Ni fod rasio yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Sadwrn ac mae cyfle i mi o'r diwedd cael mynd nôl yn y gert a chael rasio eto. Cawsom storm daranau erchyll y bore yma, felly fydd rhaid i ni gadw ein bysedd wedi croesi am dywydd sych ar gyfer y gweddill yr wythnos.
06/07/2012
Cafon i ddiwirnod eitha fisi lawr yn Tairgwaith Dydd Sul. Fi a Cati oedd y cynta' mas. Tynnu rhif 2 tu ôl y gât, ond roedden ni’n gwybod bod y ceffylau o gwmpas fi yn mynd fynd allan o'r gât yn fwy cyflym na fi, felly gorfod i ni fynd dau yn llydan yr holl ffordd, heb unrhyw obaith o cyrraedd y ochr fewn. Roedden i ddim yn meddwl y bydde'r ceffyl blaen yn rhoi fewn felly oedd rhaid eistedd yn amyneddgar . Yn dod off y trydydd cornel roedden i yn dal yn meddwl bod siawns da gyda fi, felly eisteddais y tu ôl i Just Floyd, yn gobeithio fydde fe yn un da I ddilyn ir diwedd. Yn anfodus wnaeth e flino erbyn yr diwedd so gorfod i fi dreial ffeindio gap rhwng fe a Ynyston JJ, nes i jyst cael digon o le i fedru wythio fy ffordd drwyddo i gael 3ydd. Roeddwn yn hapus iawn gyda'r ffordd 'naeth Cati rhedeg. Gobeitho fyddai'n gyrru hi eto yn ras un buddugoliaeth, yn Allensmore mewn deg diwrnod.
Rhedodd gweddill y ceffylau yn dda. Enillodd McCaw eto, dydi o ddim yn canolbwyntio trwyr ras i gyd, felly fydd rhaid i ni weithio ar hwnna. Gorfod i Nadia a Beth rhedeg yn erbyn ei gilydd. 'Naeth Mike yrru Beth a wnaeth Michael O’Mahony yrru Nadia. Aeth y ddwy yn dda a dod yn ail a trydydd. Ddyle ni nawr fod yn brysur iawn yn golchi harnais a cael pethau yn barod am Rasys Ceredigion, ond cafodd e’i ganslo achos y tywydd.
28/06/2012
Rwyn dreifo Cati yn Tairgwaith penwythnos yma. Mae 8 ceffyl arall yn y ras gyda fi. Yn y ras gyda fi mae Afan Sir Ivor a Style Matters, y 2 yn cael eu rasys cyntaf y flwyddyn, felly sain siŵr sut mae nhw yn mynd i redeg. Fi'n credi taw Just Floyd bydd problem fwyaf i fi yn y ras, aeth e'n dda iawn yn tairgwaith cwpwl o wythnosau 'nol. Roedden yn hapus gyda’r ffordd wnaeth Cati orffen y ras yng Nghilmeri, ac mae Mike ddim yn y ras tro yma felly fyddai ddim yn sownd tu ôl iddo. Gobeithio gewn i 'draw' da ar y gât, a ennil bach o 'r gwobrau arian.
Ni hefyd yn mynd a McCaw, Nance, Beth a Nadia. Roedd Mike yn mynd i yrru y ceffylau i gyd, ond mae Beth a Nadia yn yr un ras felly bydd rhaid i ni chwilio rhywun i yrru un ohonyn nhw unwaith mha Mike yn penderfynu pa un i yrru.
Mae yna geffyl newydd wedi cyrraedd ar y yard wythnos yma, Blue Daragh. Caseg fach lwyd, mae tamed yn swnllyd o gwmpas y ceffylau eraill ond fe ddaw hi i arfer ar lle cyn bo hir. Dim ond ceffyl rhagbrofol i’w hi ond gobeithio bydd hin ychwanegiad da i'r stabl.
Rydw i’n edrych mhlaen i'r tri diwrnod mawr yn Aberystwyth , gobeithio bydd y tywydd yn neis.
22/06/2012
Aethom ni a tri ceffyl i Tairgwaith nos sadwrn, er bod en bwrw glaw oedd e'n noswaith gyffroes o rasio. Gobeitho 'naetho chi gyd gwylio fe ar Rasus. Rhedodd KTM yn ras rhagbrofol ond gorfod i Mike i dynnu hi i fyny am ei bod hi wedi cael dolur. Nesa oedd ras McCaw, mae McCaw yn ceffyl ifanc, dibrofiad gyda llawer i ddysgu, ond fe wnaeth e ddangos ei fod am fod yn geffyl da un dydd, wrth ennill ei ras ar ôl torri ei gam ar y cornel cyntaf. Nesa oedd Marco, roedd e'n rhedeg yn ras fawr y noswaith, sef Cwpan Cymru. Yn anfodus cafodd Marco tynnu rhif 7 ar y gât, wnaeth hyn y ras llawer yn fwy caled iddo fe, achos aeth e'n sownd tu ôl wal o geffylau oedd wedi blino, wnaeth e'n dda i fynd o'i hamgylch yn y diwedd i gael 4ydd.
Wedyn rasus Cilmeri nos fercher. Roedd 7 ceffyl fod yn rhedeg, ond roedd Dora methu achos gorfod iddi fynd nôl i Talgrwn. A roedd gan Dollar coes dost, ond mae fe’n edrych yn iawn nawr. Rocky oedd y ceffyl cyntaf i rhedeg, cafodd e ras dda ond 'nath e bwrw darn gwlyb iawn o dir ac fe nath 'slowio' fe lawr, a wnaeth e ddim ond cael 3ydd. Wedyn daeth McCaw, cafodd e' i rwystro a torrodd ei gam yn wael ar y cornel diwethaf. Rhedodd Tom ras dda i ddod yn 3ydd. Nos fercher oedd ras cyntaf flwyddyn i fi, roeddwn i bach yn nerfys achos o ni ddim yn siwr beth fydde Cati’n meddwl o'r pishyn gwlyb ar ochr cefn y trac. Aeth y ras yn dda a wnaethom ni fedru cadw popeth at ei gilydd i benu yn 5ed, jyst yn maeddu Mike a Nance. Roedd fod rasys dydd sul yn Allensmore ond mae nhw wedi cael eu canslo, felly byddai ddim yn gyrru hyd y penwythnos nesa nawr.
08/06/2012
Wel roedd hon yn benwythnos prysur, dwi dal wedi blino! Roedd dydd Sul yn ddiwrnod gwlyb a phrysur iawn, ond 'nath y ceffylau i gyd redeg yn wych, felly oedd hynny wedi neud lan am y tywydd. Mae Dawn nawr yn gallu rhedeg yn rasys go iawn. Cawsom trydydd enillydd y tymor gyda Dollar. Ma' fe'n galli fod geffyl rhyfedd weithiau, felly roedd e'n braf gweld e'n arwain o'r dechrau i'r diwedd. Wnaeth Tom colli allan ar ennill, roedd Mahogany Dream ychydig yn rhy gyflym, ond o' ni'n hapus efo ail.
Roedd bore dydd Llun yn un gynnar iawn, oedd rhaid codi am 4:30! Wnaethom ni lwyddo i garthu a bwydo'r ceffylau mewn pryd, felly ces i 'drip' lan i Appleby. Nid oedd Appleby mor llwyddiannus i ni a Llanllieni dydd Sul. Torrodd Marco a cholli unrhyw gyfle oedd ganddo o ennill. Ond roedd fy mrawd, Rhys ar y llaw arall wedi cael diwrnod llawer gwell. Death Habana yn ail yn ei ragras a enillodd e'r ffeinal fawr. Roedd ymchwiliad gan y stiwardiaid am yr ras felly roeddwn yn aros am oesoedd, fi'n credi nesi cerdded o leiaf 2 filltir tra'n disgywl y canlyniad!
Yr wythnos hon rydym yn mynd i Walton. Gobeithio bydd e ddim mor wlyb ac wythons dwetha, ond falle bod hwyna yn obaith ofer. Mae Tom a Dollar yn rasio eto ac mae Rocky yn cael ei ras gyntaf y flwyddyn.
31/05/2012
O’r diwedd!! Nid un enillydd ond dau, Beth a Dora wedi ennill. Oedd ras Dora ychydig yn rhy agos i fod yn onest, roedd angen cael llun a wnaeth hi dim ond jyst curo Mahogany Dream i'r llinell. Ennillodd Beth ras hi yn eitha' hawdd.
Rydym wedi cael wythnos dawel ar yr iard. Mae tair o'r cesig wedi gorfod mynd i Bridfa Talgrwyn i gael AI fel y gallwn nhw gael ebolion. Bydd yr tair caseg yn redeg yn gyfeb tan tua diwedd Awst, felly hon bydd y flwyddyn olaf o hyfforddi nhw.
Erbyn y penwythnos bydd pethau'n prysuro eto. Rydym yn mynd a pedwar ceffyl i Llanllieni dydd Sul. Tom a Dollar i rasio, Dawn mewn ras profiad ac rydym yn mynd a Cati unwaith eto i redeg o gwmpas. Mae Dawn wedi rasio o'r blaen ond oherwydd ei bod wedi cael anaf llynedd a heb rasio, byddwn yn mynd â hi mewn cwpl o rasys profiad i wneud yn siŵr bod ei choesau yn iawn. Mae mam a chwaer Mike yn mynda Marco i Appleby ddydd Sul gan ei fod yn rhedeg yno ddydd Llun, sy'n golygu fydd dim lot o help yn y rasys. Mae Mike yn mynd lan i Appleby ddydd Llun i yrru Marco yn y ras. Dydw i ddim yn siwr os ydw i'n mynd i fyny i wylio eto mae'n dibynnu pa mor gyflym byddain gallu carthu yn y bore!
24/05/2012
Wel aethon ni i'r rasys yn Llanllieni dydd Sul, ac roedd yr haul yn gwenu am unwaith.Gaetho ni ddim lot o lwc wythnos yma, ond daeth y tri ceffyl nol yn ddiogel. Nath Brawd fi rhys neud yn dda i cael ail efo Home Habana!
Rydym wedi cael wythnos neis yn y stabl, gyda gyd or ceffylau allan yn chware yn y caeau, yn yr haul. Felly mae llai o carthu i fi wneud yn y prynhawn sy'n beth da! Mae'r swydd hon yn ffantastic pan fydd yr haul yn gwenu.
Yr wythnos hyn rydyn ni yn mynd a 5 ceffyl i Rasys Rhydamman wythnos yma, bydd Dora a Beth yn rasio, gobeithio y byddan nhw'n dod â'r rhosedau coch cyntaf y tymor. Mae dau ceffyl ifanc Sleepy a Katie yn mynd i ddysgu a gweld y trac am y tro cyntaf. Rydym hefyd yn mynd a Cati, ceffyl fi am trip bach.
16/05/2012
Hi!
Annwen ydw i. Rwy’n 18 mlwydd oed ac yn dod o teulu rasio harnais. Dad oedd wedi magu Scoot Around a naeth Dadcu fi hyfforddi Saunders Leopard i ennill Musselburgh cyn i fi cael i geni.
Nesi pasio prawf rasio blwyddyn ddiwethaf. Fi wedi cael gyrru yn tri ras hyd yn hyn, roedd en profiad cyfroes iawn, a ges i dau rossette! Blwyddyn yma fi’n gweithio yn stabl Dragon Heart efo 13 ceffyl pob dydd. Rwy’n dechrau gwaith am 7 o’gloch y bore. Rwy’n carthu mas bob stabl wedyn fi’n dechrau cael y ceffylau barod i mynd mas ar y trac. Fel arfer fi’n gweithio dwy ceffyl bob dydd, Dora (Adore Hanover) a Cati(Rush Around). Cati yw ffefryn fi a gobethio byddain gallu gyrru hi yn rasys cyn bo hir.
Wythnos yma mae tri ceffyl yn mynd i’r rasys, Tom , Marco a Dora. Mae Tom a Dora yn yr un ras felly bydd e’n amser prysur i fi. Gobethio bydd nhw gyd yn rhedeg yn dda a dod nol yn saff.
Dewch nol i gweld fi wythnos nesa i cael gwybod sut aeth y rasys.
Mwynhewch ddiwrnod allan llawn hwyl gyda'r teulu...